1 Corinthians 15:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s precethir ddarvot cyvodi Christ o veirw, pa vodd y dywait ’r ei yn eich plith chwi, nad oes cyvodiad igeth y meirw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os Crist a bregethir, mai o feirw y cyfodwyd Ef, pa fodd y dywaid rhai yn eich plith chwi, “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no”?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eto os pregethir Crist, ddarfod ei gyfodi ef oddiwrth feirwon, pa wedd y dywed rhywrai yn eich plith nad oes atgyfodi meirwon?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydyn ni'n cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os pregethir Crist ei fod wedi ei gyfodi o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi nad oes adgyfodiad y meirw?