1 Corinthians 15:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac any chyvodwyt Christ, mae yntef ein precaeth ni yn over, ac ys over hefyt yw ych ffydd chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac os “Crist ni chyfodwyd,” gwag, gan hyny, yw ein pregethiad ni, a gwag eich ffydd chwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os Crist nis cyfodwyd, yna, gwegi ein pregethu ni, gwag hefyd eich ffydd chwithau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag — mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yn wir yw ein pregethiad ni, ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.