1 Corinthians 15:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s yn y vuchedd hon yn vnic ydd ym yn gobeithio yn‐Christ, yr ei truanaf o’r oll ðynion y d ym.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os yn y bywyd hwn yng Nghrist y bum a’n hunig obaith, truanach na phawb o ddynion ydym.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os gobeithio yng Nghrist yn y bywyd hwn a wnaethom, a dim ond hynny, truanach na phawb oll ydym.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yn unig yn y bywyd hwn yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, truenusaf o bob dynion ydym ni.