1 Corinthians 15:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ thrwy ’r hon ich iachëir, a’ s cedwch yn eich cof, pa vodd yr euangelais y hi ychwy, a ddieithr dar vot ywch gredu yn over.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thrwy yr hon hefyd yr ydych yn cael eich achub; hyspysu yr wyf i chwi â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, os ei ddal yn dỳn yr ydych, oddieithr mai yn ofer y credasoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
drwy’r hon hefyd y’ch cedwir, — â pha ymadrodd y pregethais i chwi, o deliwch fyth ar gof, oddieithr credu’n ofer ohonoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy yr hon y'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r newyddion da sy'n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i'n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
trwy yr hon hefyd yr ydych gadwedig, os ydych yn dal gafael yn yr hyn a efengylais i chwi, oddieithr i chwi gredu yn ofer.