1 Corinthians 15:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon e gyvodwyt Christ o veirw, ac a wnaethpwyt yn vlaenffrwyth yr ei a hunesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yn awr, Crist a gyfodwyd o feirw, blaen-ffrwyth y rhai a hunasant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond, fel y mae, fe a gyfodwyd Crist oddiwrth feirwon, yn flaenffrwyth y rhai a hunodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf — fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yn awr y mae Crist wedi ei gyfodi oddiwrth y meirw, blaenffrwyth y rhai a hunasant.