1 Corinthians 15:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr pop vn yn y drefn y hunan: y blaenffrwyth yw Christ, gwedy hyny, yr ei ’syð i Christ, yn y ðyvodiat ef y cyvodant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y blaen ffrwyth yw Crist; wedi hyny y rhai ydynt eiddo Crist, yn Ei ddyfodiad Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pob un yn ei reng ei hun, Crist yn flaenffrwyth, yna, eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; yna y rhai ydynt eiddo Crist yn ei Ddyfodiad ef.