1 Corinthians 15:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef a ddarestyngawdd pop dim y dan ei draet. (A’ phan ddywait ef ddarvot darestwng pop peth yddavv, y mae yn amlwc y vot ef wedy ei ddyeithro, a ddarestyngawð bop peth y danaw.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw mai oddieithr yr Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys darostyngodd bob peth tan ei draed ef. Ond pan ddywed [yr Ysgrythur] ddarostwng popeth, eglur mai oddieithr hwnnw a ddarostyngodd iddo ef bopeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” — ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, "darostyngodd bob peth dan ei draed ef." Ond pan yw'n dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae'n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob peth a ddarostyngodd efe dan ei draed ef: a phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw y gadewir allan yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo.