1 Corinthians 15:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s amgen beth a wnant wy a va‐tyddiwyt dros veirw? a’s y meirw ny chyfodir yn ollawl, paam y batyddijr hwy dros veirw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pa beth a wna y rhai yn cael eu bedyddio dros y meirw, os y meirwon yn hollol ni chyfodir? Paham y maent yn cael eu bedyddio hefyd trostynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os amgen, ynteu, pa beth a wnânt hwy, a fedyddir ar ran y meirw? Oni chyfodir y meirw ddim, paham ynteu y bedyddir ar eu rhan hwy?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os amgen, beth a wna'r rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, beth ydy'r pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, mae'n ddiystyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os nad oes atgyfodiad, beth a wna'r rhai hynny a fedyddir dros y meirw? Os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi o gwbl, i ba bwrpas y bedyddir hwy drostynt?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os amgen beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir o gwbl? paham hefyd y bedyddir hwy drostynt?