1 Corinthians 15:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan ein gorfoleð ys y genyf yn‐Christ Iesu ein Arglwydd ydd wyf yn marw beunydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Peunydd yr wyf yn marw, myn eich ymffrost, frodyr, yr hwn sydd genyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beunydd yr wyf yn marw, myn y gorfoledd amdanoch chwi, frodyr, y sydd i mi yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau — mor sicr â'r ffaith fy mod i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn ardystio yn enw fy ymffrost ynoch, frodyr, yr hwn sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yr wyf yn marw beunydd.