1 Corinthians 15:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r peth yr wyt yn ei heu, nyt wyt yn heu y corph a vydd, anyd y gronyn noeth, megis y dygwydd, o wenith, neu o ryw ’ravvn eraill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hyn a heui, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, eithr gronyn noeth, ysgatfydd o wenith,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r peth y byddi di yn ei hau, nid y corff a ddyfydd a heui, onid gronyn noeth, ysgatfydd o ŷd neu ryw rawn arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dim yr hyn sy'n tyfu dych chi'n ei blannu, ond hedyn bach noeth — gwenith falle, neu rywbeth arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, ond gronyn noeth, efallai o wenith, neu ryw un o'r hadau eraill;