1 Corinthians 15:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a heuir yn amparch, ac a gyvodir yn‐gogoniant: e heuir yn‐gwendit, ac e gyuodir yn‐nerthoc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu; heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol; os oes corph anianol, y mae hefyd un ysprydol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Heuir corff anianol, cyfodir corff ysbrydol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu;