1 Corinthians 15:54 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly gwedy ir peth llygradwy hwn wisco anl’wgredigeth, ac ir peth marwol hwn wisco āmarwoleth, yno y der vyð yr ymadroð a scrivenwyt, Angeu a lyncwyt er buddugoliaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phan ddarffo i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb, yna y digwydd yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, “Llyngcwyd angau am byth.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y dyfydd y gair a ysgrifennwyd: llyncwyd yr angau mewn buddugoliaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydd hynny'n digwydd, bydd beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi ei lyncu yn y fuddugoliaeth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: "Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddarffo i'r llygradwy hwn ymwisgo âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb, yna y daw i ben yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, Llyngcwyd angau mewn buddugoliaeth.