1 Corinthians 15:58 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny vy‐caredic vrodyr, byddwch ffyrfion a’ diymmot helaethion yn wastat yn‐gwaith yr Arglwydd, can y chwi wybot, nad yw eich llavur yn over yn yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, yn ddiymmod, yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn wag yn yr Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, fy mrodyr anwylion, byddwch sefydlog a diymod a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd bob amser, gan wybod nad ofer mo’ch llafur chwi yn yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi'n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i'r Arglwydd ddim yn wastraff amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, a diysgog, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd.