1 Corinthians 15:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy hyny, y gwelwyt ef gan vwy na p h em p cāt broder ar vnwaith: o’r sawl y mae ’r ei yn aros h yd hyn, a’r ei hefyt gwedy hunaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yna i’r deuddeg; wedi hyny, yr ymddangosodd i fwy na phum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awr hon, ond rhai a hunasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna, gwelwyd ef gan uwchlaw pum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai yr erys y rhan fwyaf hyd yr awr hon, ond fe hunodd rhai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o'r rhai y mae'r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi hynny, efe a ymddangosodd i fwy na phum' cant o frodyr ar un waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yn awr; eithr rhai a hunasant.