1 Corinthians 16:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s Timoth e us a ddaw, edrychwch am y vot ef yn ddiofn y gyd a chwi: can ys efe ’sy yn gweithio gwaith yr Arglwydd, vegis ac ydd vvy vi nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os daw Timothëus, edrychwch ar fod o hono yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel yr wyf finnau hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac o daw Timotheos, gofelwch fod ei ymwneuthur â chwi yn ddi-ofn. Canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei wneuthur, megis minnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau hefyd.