1 Corinthians 16:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am ein brawd Apollos, mi a ddeisyfeis arno yn vawr, ddyvot atoch y gyd a’r brodur: eithyr nad oedd yn y vryd ef yn ollawl ddyvot yr awrhon: anyd e ddaw pan gaffo amser cyfaddas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac am y brawd Apolos, llawer yr ymbiliais ag ef am ddyfod attoch gyda’r brodyr; ond yn hollol nid oedd ei ewyllys i ddyfod yn awr, ond daw pan fydd ganddo amser cyfaddas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac am y brawd Apolos, llawer a erfyniais arno ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr; eithr nid oedd o gwbl yn ei fryd ddyfod yr ennyd hon, ond dyfod a wna pan gaffo amser cyfaddas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda'r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynglu375?n 'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond am y brawd Apollos, mi a ymbiliais lawer ag ef i ddyfod attoch gyda'r brodyr, ond nid oedd ei ewyllys o gwbl i ddyfod yn awr, ond daw pan gaiff gyfleusdra.