1 Corinthians 16:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Llawē wyf am ðyvodiat Stephanas, a’ Fortunatus, ac Achaicus: can yddyn hwy gyflawny y deffic o hano‐chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llawen wyf am ddyfodiad Stephanas a Ffortunatus ac Achaicus; canys eich diffyg chwi hwy a gyflawnasant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr wyf yn llawenhau ym mhresenoldeb Stephanas a Ffortunatos ac Achaicos, oblegid cyflawnasant hwy eich diffyg chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a'i cyflawnasant;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas a Phortunatus ac Achaichus, canys yr hyn oedd eisieu ar eich rhan chwi hwy a gyflawnasant;