1 Corinthians 16:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pop dydd cyntaf o’r wythnos, dodet pop vn o hanoch heibio wrtho y hun, gan roi y gadw megis y rhoes Duvv yddaw lwyddiant, val na bo ddim or casclu pan ddelwyfi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y dydd cyntaf o’r wythnos pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori fel y llwyddodd, rhag pan ddelwyf, yr amser hwnw, y bo’r gasgl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bob cyntaf o’r wythnos, neilltued pob un ohonoch wrth ei law, gan osod mewn trysorfa, ba beth bynnag a ffynnodd ganddo, fel na ohirier y casgliadau hyd oni ddelwyf i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn l ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, gosoded pob un o honoch heibio gartref, gan roddi i gadw fel y llwyddodd, fel na wneler casgliadau pan ddelwyf.