1 Corinthians 16:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef al’ei yr aro s af, ie, neu y gayafaf gyd a chwi, val im hebryngoch y b’le bynac ydd elwyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys trwy Macedonia yr wyf yn tramwy; ac ynghyda chwi ysgatfydd yr arhosaf, neu y gauafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid hwyrach y galwaf heibio i chwi, neu hyd yn oed aeafu, fel y’m hebryngoch chwithau i ba le bynnag yr elwyf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn — hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac efallai yr arhosaf gyda chwi am ysbaid, neu hyd yn oed dros y gaeaf, er mwyn i chwi fy hebrwng i ba le bynnag y byddaf yn mynd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a dichon yr arhosaf gyda chwi, neu y gauafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf;