1 Corinthians 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mi vi, vroder, pan ddaethym atoch, ny ddeuthym a’ ragoriaeth ymadrodd, neu ddoethinep, gan venegy ywch’ destoliaeth Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac myfi, pan ddaethum attoch, frodyr, a ddaethum, nid â rhagoroldeb ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi ddirgelwch Duw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A minnau wrth ddyfod atoch, frodyr, nid ym mraint rhagoriaeth ymadrodd neu ddoethineb y deuthum, gan gyhoeddi i chwi’r dystiolaeth am Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd annwyl, nid dawn dweud slic a rhyw areithiau clyfar gawsoch chi gen i pan oeddwn i'n cyhoeddi beth oedd cynllun Duw i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A minnau, pan ddeuthum atoch, gyfeillion, ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi hefyd, pan ddaethum attoch, frodyr, ni ddaethum gyda godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb pan yn cyhoeddi i chwi dystiolaeth Duw.