1 Corinthians 2:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pa ddyn a edwyn betheu dyn, dy eithr yspryt dyn, yr hwn ’sy ynddo ef? ac velly petheu Duw nyd edwyn neb un, any d Yspryt Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy o ddynion a ŵyr bethau dyn, oddieithr yspryd dyn, yr hwn sydd ynddo? Felly, pethau Duw hefyd, nid oes neb a’u gŵyr oddieithr Yspryd Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pa ddyn a ŵyr bethau dyn, ond ysbryd dyn, sef yr ysbryd sydd ynddo? felly hefyd bethau Duw, nis gŵyr neb namyn ysbryd Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy ym mhlith dynion a ŵyr bethau y dyn, ond yspryd y dyn yr hwn sydd ynddo? Felly hefyd pethau Duw nid edwyn neb ond Yspryd Duw.