1 Corinthians 2:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hyn betheu hefyt a ymadroddwn, ny d yn y geiriae ’ðengys doethinep dynol, any d yr ei a ðengys yr Yspryt glan, gan gyffelypu petheu ysprytol y betheu ysprytol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai hefyd a lefarwn, nid mewn geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, eithr a ddysgwyd gan yr Yspryd, gan gydmaru pethau ysprydol â phethau ysprydol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pethau hefyd yr ydym yn eu llafaru, nid mewn ymadroddion a ddysgwyd trwy ddoethineb ddynol, ond a ddysgwyd trwy’r Ysbryd, gan gymhwyso pethau ysbrydol at ysbrydolion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â'r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r union neges dŷn ni'n ei rhannu — dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni'n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai hefyd yr ydym yn eu llefaru, nid mewn geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Yspryd, gan gymharu pethau ysprydol â phethau ysprydol.