1 Corinthians 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y dyn anianol ny chynwys betheu ’sy o Yspryt Duw: can ys ynfydrwyð ynt ganto ef: ac ny ðychon ef eu hadnabot, can ys yn ysprytol eu dosperthir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y dyn anianol ni dderbyn bethau Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni all eu gwybod, gan mai yn ysprydol y bernir hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am ddyn anianol, ni dderbyn ef bethau ysbryd Duw, canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni ddichon wybod mai yn ysbrydol y bernir hwynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud — maen nhw'n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr, y dyn anianol ni dderbyn y pethau sydd o Yspryd Duw: canys ffolineb ydynt iddo ef; ac nis gall eu gwybod, canys mewn modd ysprydol y profir hwynt.