1 Corinthians 2:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pwy a wybu veddwl yr Arglwydd, val y gallei y gygori ef? any d y mae genym ni’ veddwl Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a’i cyfarwydda Ef? Ond nyni sydd a chenym feddwl Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? eithr nyni, y mae gennym feddwl Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a'i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy'n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae'r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yng ngeiriau'r Ysgrythur: "Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, i'w gyfarwyddo?" Ond y mae meddwl Crist gennym ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a'i cyfarwydda Ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.