1 Corinthians 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nyd oedd vy araith a’m preceth yn sefyll yn‐geirae denu doethinep dynawl, anyd yn eglur ddangosiat yr Yspryt, a’ nerth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac fy ymadrodd a’m pregethiad nid oeddynt yng ngeiriau darbwyllus doethineb,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dull fy ymadrodd i a’m pregeth i, ni bu â dengar eiriau doethineb, eithr ag amlygiad ysbryd a gallu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'm hymadrodd a'm pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim llwyddo i'ch perswadio chi gyda geiriau clyfar wnes i. Roedd hi'n gwbl amlwg fod yr Ysbryd Glân ar waith!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'm hymadrodd i a'm pregeth, nid geiriau deniadol doethineb oeddent, ond amlygiad sicr o'r Ysbryd a'i nerth,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'm hymadrodd a mater fy mhregethu nid oeddynt yng ngeiriau deniadol doethineb, eithr yn amlygiad yr Yspryd a gallu: