1 Corinthians 2:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ doethinep a ddywedwn ym‐plith yr ei perfeith: ny d doethinep y byt hwn, na doethinep tywysogion y byd hwn, yr ei a ddervydd am danynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond doethineb a lefarwn ym mhlith y rhai perffaith; ond doethineb nid o eiddo y byd hwn, nac o eiddo llywodraethwyr y byd hwn y rhai sy’n myned yn ddiddym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Doethineb, yn wir, yr ydym yn ei llefaru ym mysg y rhai perffaith, ond doethineb nid eiddo’r byd hwn, nac ychwaith eiddo penaethiaid y byd hwn, y rhai y mae eu grym yn darfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto mae'r neges dŷn ni'n ei chyhoeddi yn neges ddoeth, ac mae'r bobl sy'n gwrando arni yn dangos eu bod nhw'n bobl aeddfed. Ond dim ffordd ein hoes ni o edrych ar bethau ydy hi. A dim ffordd y rhai sy'n llywodraethu chwaith — mae hi ar ben arnyn nhw beth bynnag!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto yr ydym ni yn llefaru doethineb ymhlith y rhai aeddfed, ond nid doethineb yr oes bresennol, na'r eiddo llywodraethwyr yr oes bresennol, sydd ar ddarfod amdanynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr, doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym mysg y rhai sydd wedi cyrhaedd addfedrwydd: eithr doethineb nid eiddo y byd hwn na llywodraethwyr y byd hwn, y rhai sydd yn cael eu diddymmu.