1 Corinthians 2:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn ddoethinep ny’ s adnabu nep o dywysogion y byt hwn: can ys pe’s adwaenesent, ny chrogesont wy Arglwydd y gogoniant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn ni fu i undyn o lywodraethwyr y byd hwn ei adnabod; canys pes adwaenasent, Arglwydd y gogoniant ni chroes-hoeliasent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hon nid adnabu neb o benaethiaid y byd hwn, canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid adnabu neb o lywodraethwyr yr oes bresennol mo'r ddoethineb hon; oherwydd pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hon nid oes neb o lywodraethwyr y byd hwn wedi dyfod i'w hadnabod: canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y Gogoniant: