1 Corinthians 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr megis y mae yn scrivenedic, Y petheu ny welas llygat, ac ny chlywoð clust, ac ny’s daeth y mewn calō dyn, ynt, a baratoawð Duw ir ei y carant ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr fel yr ysgrifenwyd, “Y pethau na fu i lygad eu gweled, a chlust ni chlywodd, Ac i galon dyn nad esgynasant, Cynnifer bethau ag a barottodd Duw i’r rhai sydd yn Ei garu;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr fel y mae’n ysgrifenedig, Pethau ni welodd llygad ac nis clybu clust, ac nid esgynnodd i galon dyn, yr holl bethau a baratôdd Duw i’r rhai a’i caro.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i'r rhai sy'n ei garu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fel y mae'n ysgrifenedig: "Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, Ac na chyfodasant i galon dyn, Y fath bethau a ddarparodd Duw i'r rhai sydd yn ei garu ef.