1 Corinthians 3:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ny allwn i ymadrodd wrthych, vroder, megis wrth rei ysprytawl, any d wrth rei cnawdol, ’sef megis wrth blant‐bychain yn‐Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych fel rhai ysprydol, eithr fel rhai cnawdol, fel babanod yng Nghrist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Minnau, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth fabanod yng Nghrist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! — yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Minnau, gyfeillion, ni ellais lefaru wrthych fel wrth rai ysbrydol, ond fel wrth rai cnawdol, fel babanod yng Nghrist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megys wrth rai ysprydol, eithr wrth fel rhai o gnawd, megys wrth fabanod yng Nghrist.