1 Corinthians 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd y rrat Duw y roespwyt y‐my, megis penadailwr celfydd, y gosodeis y sail iad, ac arall ’sy yn adail iad arnaw: anyd edrychet pop vn, pa vodd yr adaila arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen-saer doeth y sylfaen a roddais, ac arall sy’n adeiladu arno; a bydded i bob un edrych pa wedd y mae yn adeiladu arno;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn ôl y gras Duw a rodded i mi, fel pensaer doeth, gosodais sylfaen, eithr arall sydd yn adeiladu arni. Edryched pob un pa fodd yr adeilado.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn l y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen‐adeiladydd medrus myfi a osodais sylfaen; ac y mae arall yn adeiladu arno: ond edryched pob un pa fodd y mae yn adeiladu arni.