1 Corinthians 3:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s llysc gwaith vn, ef a goll, eithr cadwedic vydd ef e: and er hyny megis gan y tan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
os gwaith neb a losgir, colled a gaiff efe; ond efe ei hun a achubir, ond felly fel trwy dân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O llosgir gwaith neb, colledir hwnnw, eithr cedwir ef ei hun, ond eto megis trwy dân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub — ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os llosgir gwaith rhywun, caiff ddwyn y golled, ond fe achubir yr adeiladydd ei hun, ond dim ond megis trwy dn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gwaith neb a losgir i'r llawr, efe a golledir: eithr efe ei hun a achubir, ond felly megys trwy dân.