1 Corinthians 3:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s dinistra neb Tēpl Duw, hwnw a ðinistr Duw: can ys Templ Duw sanct aidd yw, yr hwn yw‐chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os teml Dduw a ddistrywia dyn, hwnw a ddistrywia Duw; canys teml Dduw, sanctaidd yw, yr hon ydych chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw; canys sanctaidd yw teml Dduw, a hynny ydych chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio ei deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd rhywun yn dinistrio teml Duw, bydd Duw'n ei ddinistrio yntau, oherwydd y mae teml Duw yn sanctaidd, a chwi yw'r deml honno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oes neb yn dinystrio Cyssegr Duw, hwnnw Duw a ddinystria; oblegyd Cyssegr Duw sydd sanctaidd, a'r cyfryw ydych chwi.