1 Corinthians 3:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny nac ymhoffet neb yn‐ d ynion: can ys pop dim ’sy dd y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth, yr eiddoch chwi ydynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, nac ymffrostied undyn mewn dynion, canys eiddo chwi bopeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae'r cwbl yn eiddo i chi —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mewn canlyniad, na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth sydd eiddoch chwi: