1 Corinthians 3:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pan ddywait vn, Ys mi vn i Paul, ac arall. Ys mi i Apollos, any d ych yn gnawdol?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pan ddywaid neb, Myfi wyf o Paul; ac arall, Myfi wyf o Apolos, onid dynion ydych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pan ddywedo rhyw un, “Myfi, eiddo Pawl wyf,” ac arall, “Myfi, eiddo Apolos,” onid dynion ydych?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan yw un yn dweud, "Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul", ac un arall, "Minnau, i blaid Apolos", onid dynol ydych?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pan ddywed un, Myfi wyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apollos, onid dynion ydych?