1 Corinthians 3:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy gan hyny yw Paul? a’ phwy yw Apollos, anyd y gweinigogiō drwy’r ei y credesoch, a’ megis y rroes yr arglwyð y bop vn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, yw Apolos? A pha beth yw Paul? Gweinidogion, trwy y rhai y credasoch, ac fel y bu i’r Arglwydd roi i bob un.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa beth, ynteu, yw Apolos, neu ba beth Pawl? Gweision, y credasoch chwi drwyddynt, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un ohonynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni — gwneud beth oedd Duw wedi ei ddweud wrthon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth gan hynny yw Apollos? a pha beth yw Paul? Gweinidogion drwy y rhai y credasoch: a phob un fel y rhoddodd yr Arglwydd iddo.