1 Corinthians 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd ym ni yn ffolieit er mwyn Christ, a’ chwi the yn ddaethion in‐Christ: ny ni yn weinion, a’ chwi the yn gryfion: chvvy chwi yn anrydeddus, a’ ni neu yn ddianrydedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nyni, ffyliaid ydym er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn ogoneddus, a ninnau yn ddianrhydedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ffyliaid ydym ni er mwyn Crist, ond chwychwi, doethion ydych yng Nghrist; nyni yn weiniaid, chwithau’n gryfion; chwychwi yn ogoneddus, ninnau’n ddirmygedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni yn ffyliaid er mwyn Crist, chwithau'n rhai call yng Nghrist! Ni yn wan, chwithau'n gryf! Chwi'n llawn anrhydedd, ninnau heb ddim parch!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydym ni yn ffyliaid Crist, ond yr ydych chwi yn ddoethion yng Nghrist; yr ydym ni yn weiniaid, ond yr ydych chwi yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygedig;