1 Corinthians 4:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yd yr awr hon ydd ym ni yn newynu, ac yn sychedu, ac yn noethion, ac in bonclustir, ac eb wastadva,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hyd yr awrhon newyn sydd arnom a syched, a noethion ydym, ac yn cael ein cernodio, ac heb drigfa sefydlog genym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyd yr ennyd hon y mae arnom ni newyn a syched, noethion ydym, fe’n cernodir, digartref ŷm
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hyd y nod yr awr hon yr ydym mewn newyn a syched, ac yn fyr o ddillad, ac yn cael ein dyrnodio, ac heb drigle sefydlog gennym;