1 Corinthians 4:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yn lavurio gan weithio an dwylo ein hunain: nyni a gawn senneu a ’bēdithio ydd ym: ydd ys in h ymlid, ac ydd ym yn dyoddef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn llafurio gan weithio â’n dwylaw ein hunain; pan yn cael ein gwatwar, bendithio yr ydym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a blin gan lafur ein dwylo ein hunain; pan ddifenwer ni, bendithio a wnawn; pan erlidier ni, goddef a wnawn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylo'n hunain. Pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dŷn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylaw ein hunain; pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn dyoddef yn amyneddgar;