1 Corinthians 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd ys in cablu, ac ydd ym yn gweddio: in gwnaethpwyt ni val carthion y byt, yn greifion pop peth, yd hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pan yn cael ein herlid, dioddef yr ydym; pan yn cael ein cablu, attolygu yr ydym; fel budreddi’r byd y’n gwnaed, a sorod pob peth hyd yn hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pan gabler ni, dywedyd yn deg a wnawn; fel golchion y byd y’n gwnaethpwyd ni, fel creifion pob dim hyd yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan y'n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dŷn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu'n ddim byd ond baw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i'r enllib, geiriau caredig. Fe'n gwnaethpwyd yn garthion y byd, yn olchion pawb, hyd yn awr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pan y'n enllibir, yr ydym yn ymbilio; fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni a sorod pob dim hyd yn awr.