1 Corinthians 4:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cyd bei y chwi ðec mil o athrawon in‐Christ, er hyny ny d oes ychvvi nem o r o dadeu: can ys in‐Christ Iesu my vi a’ch enillais trwy’r Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys er i ddeng mil o hyfforddwyr fod genych yng Nghrist, er hyny, nid llawer o dadau sydd, canys yn Iesu Grist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys od oes i chwi filoedd ar filoedd o baedagogiaid yng Nghrist, eto nid oes i chwi lawer o dadau, canys yng Nghrist Iesu, trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a'ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy'r efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai'n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi'r newyddion da i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe byddai gennych ddeng mil o hyfforddwyr yng Nghrist, eto ni fyddai gennych fwy nag un tad, oherwydd yng Nghrist Iesu myfi a ddeuthum yn dad i chwi drwy'r Efengyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pe byddai i chwi ddeng mil o warchodwyr yng Nghrist, etto nid oes i chwi nemawr o dadau; canys yng Nghrist Iesu trwy yr efengyl y cenhedlais i chwi.