1 Corinthians 4:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit hynn yd anvonais Timothëus atoch yr hwn yw vy‐caredic vap, a’ ffyddlon yn yr Arglwydd, yr vn a goffa i chwi vy ffyrdd i yn‐Christ megis yddwyf ym p op lle yn ei dyscu ym‐pop‐Eccles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn y danfonais attoch Timothëus, yr hwn yw fy mab anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd y sydd yng Nghrist, y modd ymhob man, ymhob eglwys, yr wyf yn dysgu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid hyn yr anfonais atoch Dimotheos, yr hwn yw fy mab annwyl a ffyddlon yn yr Arglwydd, a’r hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, megis yr wyf yn addysgu ymhobman, ymhob eglwys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i'n anfon Timotheus atoch chi — mae e'n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i'n gallu dibynnu'n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i'n ymddwyn a beth dw i'n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i'n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i'n mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma pam yr anfonais Timotheus atoch; y mae ef yn fab annwyl i mi, ac yn ffyddlon yn yr Arglwydd, a bydd yn dwyn ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, fel y byddaf yn eu dysgu ym mhobman, ym mhob eglwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn yr anfonais Timotheus attoch, yr hwn yw fy mhlentyn anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, hyd y nod fel ag yr wyf yn dysgu ym mhob man ym mhob eglwys.