1 Corinthians 4:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth a ewyllysiwch? a ddawaf vi atoch’ a gwialen, ai a chariat, ac yn Yspryt boneddigeiddrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth a ewyllysiwch? Ai â gwialen i mi ddyfod attoch; neu mewn cariad ac yspryd addfwyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth a fynnwch? Ai dyfod ohonof atoch â gwialen, ai ynteu â chariad ac ysbryd addfwynder?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dewiswch beth sydd orau gynnoch chi — i mi ddod gyda gwialen i gosbi a dweud y drefn, neu ddod yn llawn cariad ac yn addfwyn?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth yw eich dewis? Ai gwialen yr wyf i ddod atoch, ynteu chariad, ac ysbryd addfwynder?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth a fynnwch chwi, ai dyfod o honof attoch chwi â gwialen, ynte mewn cariad, ac yspryd addfwynder?