1 Corinthians 4:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er mwyn hyny na vernwch ddim cyn yr amser, y’n y ddel yr Arglwydd, rhwn a ’oleuha guddiedigion betheu ’r tywyllwc h, ac a eglur h a veddylyae’r galon, ac yno y bydd moliant y bawp gan Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, cyn yr amser na fernwch ddim, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr Hwn a ddwg i’r goleuni guddiedig bethau y tywyllwch, ac a amlyga gynghorau y calonnau; ac yna ei fawl fydd i bob dyn oddiwrth Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, na fernwch ddim cyn pryd, hyd oni ddêl yr Arglwydd, yr hwn hefyd a oleua gudd bethau’r tywyllwch a dadlennu bwriadau’r calonnau, ac yna y daw’r glod i bob un gan Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo'r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau'r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly peidiwch barnu dim cyn yr amser, nes i'r Arglwydd ddod; bydd ef yn goleuo pethau cudd y tywyllwch ac yn gwneud bwriadau'r galon yn amlwg. Ac yna caiff pob un ei glod gan Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a ddwg i'r goleu bethau dirgel y tywyllwch, ac a wna yn amlwg fwriadau y calonnau; ac yna y bydd i bob un ei glod oddiwrth Dduw.