1 Corinthians 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef y petheu hyn, vrodur, ar gyffelypiaeth a gyssoneis ata vyhun ac Apollos, er eich mwyn chwi, val y dyscech wrthym ni, na bo y neb ryvygu yn uwch nac hyn a yscrifenwyt val nad ymchwyðo vn yn erbyn y l’all er mwyn ne bū.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r pethau hyn, frodyr, a droais mewn ffigr attaf fy hun ac Apolos, er eich mwyn, fel ynom ni y dysgoch beidio a myned tu hwnt i’r pethau a ysgrifenwyd, fel na bo i’r naill ymchwyddo dros y llall, yn erbyn y llall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais i ataf fy hun ac at Apolos o’ch achos chwi, fel y dysgech ynnom ni y gair hwnnw, “nid dim dros ben yr hyn a sgrifennwyd,” fel nad ymchwyddo neb dros un yn erbyn arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o'ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi cymhwyso'r pethau hyn, gyfeillion, ataf fi fy hun ac at Apolos er eich mwyn chwi, ichwi ddysgu, drwom ni, "gadw o fewn yr hyn a ysgrifennwyd", rhag i neb ohonoch ymchwyddo wrth bleidio un a gwrthod y llall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais trwy ddull ffugyrol attaf fy hun ac Apollos, er eich mwyn chwi, fel ynom ni y dysgoch beidio myned tuhwnt y pethau a ysgrifennwyd, fel na byddo un o honoch yn ymchwyddo ar ran y naill yn erbyn y llall.