1 Corinthians 4:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canys pwy ath ’ohana di? a’ pha beth ’sygenyt a’r ny dd erbynieist? ac a’s d erbyniest, paam ydd ymhoffy di, megis na’s d erbyniesyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy sydd yn dy wneuthur di yn wahanol? A pha beth sydd genyt na dderbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti, fel pe bait heb dderbyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? Beth sydd gennyt nas derbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti megis pe bait heb dderbyn?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a'r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? — fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy sy'n rhoi rhagoriaeth i ti? Beth sydd gennyt, nad wyt wedi ei dderbyn? Ac os ei dderbyn a wnaethost, pam yr wyt yn ymffrostio fel pe bait heb dderbyn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy sydd yn peri gwahaniaeth rhyngot ti ac eraill? a pha beth sydd gennyt ar nas derbyniaist? ond, yn wir, os derbyn wnaethost, paham yr wyt yn ymffrostio megys pe buasit heb dderbyn?