1 Corinthians 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn awr yð yw‐chwi yn llawn: yn awr ich cyvoethogwyt: yð ych yn tëyrnasu ebom ni, a’ Duw na baech yn teyrnasu val y teyrnasem ni neu y gyd a chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eisoes y’ch diwallwyd; eisoes goludog ydych; hebddom ni y teyrnasasoch. Ac O na baech yn teyrnasu, fel y byddai i ninnau hefyd gyd-deyrnasu gyda chwi!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma chwi eisoes wedi’ch diwallu, dyma chwi eisoes wedi ymgyfoethogi; hebom ni, dyma chwi wedi dyfod i’ch teyrnas, — ac och Dduw! na ddeuthech i’ch teyrnas, fel y teyrnasem ninnau hefyd gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas — a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma chwi eisoes wedi cael eich gwala; eisoes wedi dod yn gyfoethog; wedi etifeddu eich teyrnas, a hynny hebom ni! Gwyn fyd na fyddech wedi etifeddu eich teyrnas mewn gwirionedd, er mwyn i ninnau hefyd gael teyrnasu gyda chwi!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eisoes yr ydych chwi wedi eich gor‐ddigoni, eisoes yr ymgyfoethogasoch, ar wahân â ni chwi aethoch yn frenhinoedd. Ac o na baech yn wir yn frenhinoedd fel y caem ninnau hefyd fod yn frenhinoedd gyda chwi.