1 Corinthians 4:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ydd wyf yn tybiet vod y Dduw ein d anvon ni yr Apostolion dywethaf, val ’r ei wedy ei darparu y angeu: can ys in gwnaethpwyt ni yn ys‐ d d rych ir byt, ac i’ r Angelion, ac i ddynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys tybiaf y bu i Dduw ein dangos ni, yr apostolion, yn ddiweddaf, megis wedi ein bwrw i angau, canys gwnaethpwyd ni yn ddrych i’r byd, ac i angylion, ac i ddynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, i’m tyb, fe’n dynododd Duw ni, apostolion, yn olafiaid, fel rhai wedi eu bwrw i farw, canys fe’n gwnaethpwyd yn ddrych i’r byd, i angylion ac i ddynion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, ac i'r angylion, ac i ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn — y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd — pobl ac angylion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf yn tybio bod Duw wedi rhoi i ni'r apostolion y lle olaf, fel rhai wedi eu condemnio i farw yn yr arena, gan ein bod wedi dod yn sioe i'r cyfanfyd, i angylion ac i feidrolion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn tybied fod Duw yn ein harddangos ni yr Apostolion yn gyhoeddus yn olaf, fel rhai wedi eu dedfrydu i farwolaeth: oblegyd nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, i angylion ac hefyd i ddynion.