1 Corinthians 5:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
E Glywir yn ollawl vot godinep yn eich plith, a’ chyfryw ’odinep ac na h enwir vnwaith ym‐plith y Cenetloeddd, sef cymeryd o vn wreic ei dat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn hollol y clywir am odineb yn eich plith, a’r fath odineb ag nad oes hyd yn oed ym mhlith y cenhedloedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fe glywir — dim llai — am odineb yn eich plith, a chyfryw odineb ag nas ceir hyd yn oed ymhlith y cenhedloedd, sef caffael o ddyn wraig ei dad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mae'r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae'n waeth na beth fyddai'r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda'i lysfam, gwraig ei dad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddir fel ffaith fod yna anfoesoldeb rhywiol yn eich plith, a hwnnw'r fath anfoesoldeb na cheir mohono hyd yn oed ymhlith y paganiaid, bod rhyw ddyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Adroddir yn ddios fod putteindra yn eich plith, a chyfryw butteindra ar nad yw hyd y nod ym mysg y Cenhedloedd, fod gan un o honoch wraig ei dâd.