1 Corinthians 5:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ny d yn ollawl a godinebwyr y byt hwn, neu a’r cupyddion, neu a chribdeilwyr, neu a delw addolwyr: o bleit a’s amgen rhait ywch vynet al’ā o’r byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â chybyddion, a rheibusion, neu âg eulunaddolwyr, canys felly y byddai rhaid i chwi fyned allan o’r byd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid yn llwyr ag anlladwyr y byd hwn, na’i gybyddion a’i gribddeilwyr, na’r eilunaddolwyr, oblegid, wrth gwrs, rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â'r cybyddion, neu â'r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i — sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy'n anfoesol neu'n hunanol, neu'n twyllo, neu'n addoli eilun-dduwiau. Byddai'n rhaid i chi fynd allan o'r byd i osgoi pobl felly!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid am rai anfoesol y byd hwn yr oeddwn yn meddwl o gwbl, na chwaith am y trachwantus, y cribddeilwyr, neu'r eilunaddolwyr; onid e, byddai'n rhaid ichwi fynd allan o'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid na chyd— gymmysgech o gwbl â phutteinwyr y byd hwn, neu y rhai trachwantus a threisgar, neu eilun‐addolwyr, oblegyd yna byddai rhaid i chwi fyned allan o'r byd;