1 Corinthians 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr yn awr y scrivenais atoch’, na bo ywch gydgymdeithas: a’s oes neb a elwir yn vrawt, yn ’odinebwr, neu yn cupydd neu yn ddelw‐addolwr, neu yn gablwr, neu vn meddw, neu yn gribddeilwr, y gyd a’r cyfryw vn na vwytewch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr awrhon ysgrifenu attoch yr wyf i beidio ag ymgymmysgu, os rhyw un a enwir yn frawd fydd odinebwr, neu gybydd, neu eulun-addolwr, neu ddifenwr, neu feddwyn, neu rheibus, â’r cyfryw un i beidio ag hyd yn oed fwytta;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn awr ysgrifennu atoch a wneuthum na bo gyfathrach o bydd neb a elwir yn frawd yn odinebwr, neu gybydd, neu eilunaddolwr, neu ddifennwr, neu feddwyn, neu gribddeilwr, — gyda’r cyfryw ddyn na chydfwytewch hyd yn oed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda'r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, beth roeddwn i'n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i'w wneud â rhywun sy'n galw ei hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw'n anfoesol, neu'n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu'n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio chymysgu neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed bwyta gydag un felly.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn awr, yr wyf yn ysgrifennu attoch i beidio ag ymgymmysgu, os bydd neb a enwir yn frawd yn butteiniwr, neu yn drachwantus, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddwyn, neu yn dreisgar; gyda'r cyfryw un na ddim cymmaint a bwytta.